Mae cyn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Clwb Pêl-droed Tre’r Barri, ar werth am £250,000.

Daw’r penderfyniad i werthu’r clwb wrth i’r perchennog a chadeirydd y clwb, Stuart Lovering, ddweud ei fod wedi datblygu’r clwb gymaint ag y gall.

“Rydw i wedi treulio amser ac ymdrech ac wedi gwario arian enfawr yn ail-adeiladu’r busnes i’w safle presennol,” meddai Lovering.

“Ond erbyn hyn rwy’n teimlo bod yr amser yn iawn i mi basio’r clwb ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, er mwyn i’r clwb gael tyfu eto.”

Y cedyrn yn cwympo

Cafodd y clwb ei sefydlu’n wreiddiol yn 1888, ac mae’n un o dimau mwyaf llwyddiannus pêl-droed Cymru yn y blynyddoedd diweddar.

Roedd yn tra-arglwyddiaethu ar Uwch Gynghrair Cymru yng nghanol y 1990au a dechrau’r ganrif yma, gyda saith pencampwriaeth mewn wyth mlynedd.

Fe gafodd y clwb sawl noswaith gofiadwy ym Mharc Jenner, wrth gystadlu yn Ewrop, gyda’r uchafbwynt yn dod pan gurwyd Porto 3-1.

Ond ar ôl i broblemau ariannol ddod ag oes broffesiynol y clwb i ben yn ystod tymor 2003-4, fe gwympodd Y Barri o’r Uwch Gynghrair.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe ddisgynnodd y clwb i drydedd haen pêl-droed Cymru.
Ers hynny mae’r clwb wedi cael ei ail adeiladu, gyda’r Barri yn ennill dyrchafiad yn ôl i’r ail haen yn 2008.

Mae’r Barri yn un o’r 24 clwb sydd wedi gwneud cais am drwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf.