Mae’r heddlu wedi enwi dyn 38 oed a gafodd ei ladd ddydd Gwener diwethaf mewn damwain ar yr A465, yn Dowlais, Merthyr Tudful.

Bu farw Raymond Ashley Robinson – neu Ashley i’w deulu – ar ôl cael ei daro gan gar Peugeot 307 gwyn, yn agos at gylchfan Asda am tua 5:35am, ddydd Gwener 18 Medi.

Cafodd dyn 43 oed a gwraig 35 oed eu harestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus. Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ystod ymchwiliad i’r digwyddiad.

Teyrnged

Roedd Raymond Ashley Robinson yn dod o ardal Markham yn y Coed Duon, ac roedd yn briod a chanddo bedwar o blant.

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo: “Roedd Ashley yn cael ei garu fel gŵr, tad, mab, brawd ac ewyrth, a bydd ei farwolaeth yn gadael twll anferth ym mywydau pob un ohonom ni.

“Roedd yn ddyn teulu balch, ac yn dad ymroddedig, ac yn dotio ar ei blant ei hun a’i nithoedd a’i neiaint.

“Roedd Ashley yn ffigwr adnabyddus a phoblogaidd iawn yn y gymuned leol, ac mi fysai’n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un.”

Gwybodaeth am symudiadau

Mae’r heddlu yn parhau i alw am dystion i’r digwyddiad, yn enwedig gwybodaeth ynglŷn â symudiadau Raymond Ashley Robinson yn yr oriau cyn y ddamwain.

Roedd wedi gadael ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful am tua 12:50am ar ddiwrnod y ddamwain.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar y rhif 02920 633 438, neu 101, neu drwy alw Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Llun: Raymond Ashley Robinson yn dal gwobrau pêl droed un o’i blant.