Dywedodd Prif Weinidog Cymru heddiw fod ei Lywodraeth wedi gofyn i San Steffan am flaendal o £120 miliwn ar gyfer cyllid y Cynulliad y flwyddyn nesa’.
Mae wedi cydnabod hefyd fod ei weinidogion a gweision sifil wedi bod yn gweithio ers dwy flynedd ar gynlluniau i dorri gwario.
Mewn cynhadledd i’r wasg y bore yma, fe gyfaddefodd y byddai yna lai o swyddi yn y sector cyhoeddus, er gwaetha’ cynnydd yn nifer y staff sy’n delio ag effaith y dirwasgiad.
Byddai’r £120 miliwn o flaendal yn cael ei symud o gyllid y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn 2010/11, ac yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer hybu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi tua £6 miliwn tuag at gefnogi busnesau bach a chanolig yn ystod y dirwasgiad.
‘Neis ond diangen’
Dywedodd Rhodri Morgan hefyd bod y Llywodraeth wedi bod yn pwyso a mesur gwerth cynlluniau gwario cyhoeddus cyn llunio cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesa’.
Roedden nhw wedi bod yn chwilio am gynlluniau sy’n “neis” ond sy’n “ddiangen”, gan ddefnyddio system oleuadau traffig – coch, oren a gwyrdd – i nodi pwysigrwydd.
Fe rybuddiodd fod Cymru yn dechrau ar gyfnod anodd o ran gwariant cyhoeddus, cyfnod a allai bara am rhwng pump a deng mlynedd.
Mae’n debygol y bydd y Cynulliad yn derbyn £216 miliwn yn llai o gyllid gan y Trysorlys y flwyddyn nesaf, oherwydd cyfyngu arfaethedig Llywodraeth San Steffan ar wariant cyhoeddus.
Ymddeol?
Ymatebodd Rhodri Morgan i gwestiynau ynglŷn â’i ddyfodol fel Prif Weinidog heddiw hefyd, gan ddweud fod yn rhaid i bobol fod yn amyneddgar.
Mae Rhodri Morgan wedi dweud y bydd yn cyhoeddi dyddiad ei ymddeoliad tuag adeg ei ben-blwydd yn 70 ddydd Mawrth nesaf.
Dywedodd heddiw taw’r unig beth a allai newid ei gynlluniau ar gyfer ymddeol yw digwyddiad difrifol, tebyg i gynnydd mawr yn yr achosion o ffliw’r moch.
Mae amheuaeth y bydd yn amseru cyhoeddi ei ymddeoliad, er mwyn dechrau’r gystadleuaeth ar gyfer ei olynydd yng nghynhadledd y blaid Lafur yn Brighton ddydd Sul,
Refferendwm
Yn ymateb i gwestiynau Aelodau Cynulliad heddiw, dywedodd Rhodri Morgan fod yna “ddisgwyliad rhesymol” y byddai Cymru yn pleidleisio ‘Ie’ am bwerau deddfau llawn mewn refferendwm.
Ond rhybuddiodd fod y modd y mae pobol yn pleidleisio mewn refferendwm yn gallu dibynnu ar ddigwyddiadau a theimladau cyffredinol pobol ynglŷn â gwleidyddiaeth y cyfnod.
Mae disgwyl adroddiad gan Gonfensiwn Cymru’n Un ym mis Tachwedd, ynglŷn ag agwedd pobol y wlad ynglŷn â Datganoli.
Mae llywodraeth glymbleidiol Llafur a Phlaid Cymru wedi dweud y byddant yn cynnal refferendwm ar gyfer deddfu llawn i Gymru yn 2011, os ydynt yn credu bod modd cael pleidlais ‘Ie’.