Mae Aelod Seneddol Arfon yn dweud ei bod yn bosib na fydd Cymru’n cael unrhyw garchar newydd.
Fe ddywedodd hefyd y byddai pethau’n wahanol pe bai rheolaeth carchardai wedi ei ddatganoli.
Yn ôl Hywel Williams y broblem yw bod yr Adran Gyfiawnder yn Llundain eisiau carchar “lot mwy, i tua 1,500 o bobol” yn hytrach nag un i ateb gofynion Cymru.
Heddiw, fe gyhoeddon nhw eu bod yn torri eu bwriad i godi’r carchar ar lannau’r Fenai ger Caernarfon.
Mae’n golygu colli’r cyfle am tua 700 o swyddi yn yr ardal – gan ychwanegu at y ddyrnod o golli cannoedd o swyddi yn Ynys Môn gyferbyn.
“Ar ôl ystyriaeth ofalus mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi penderfynu tynnu’n ôl o geisio cael cyn safle Dynamex ger Caernarfon yng Ngogledd Cymru,” meddai’r Gweinidog Carchardai Maria Eagle.
“Roedden ni’n ymwybodol o broblemau posib gyda’r safle, ac wedi penderfynu nad yw’n addas ar gyfer datblygu carchar.”
Eisiau carchar mwy
“Mae carchardai mawr tua’r un mor rhad i’w hadeiladu â rhai bach,” meddai Hywel Williams.
“Does dim eisiau carchar o’r maint yna fan hyn. Dyw carchar y maint yna ddim yn ateb anghenion Cymru, ond rhai Cymru a Lloegr.
“Petai’r holl fater wedi ei ddatganoli fyddai’r penderfyniad yma heb ei gymryd. Dw i’n hynod o siomedig.”
Dywedodd eu bod nhw wedi gofyn am garchar i tua 600 o bobol er mwyn ateb anghenion pobol Cymru, ac un a fyddai’n cynnwys uned i ferched.
Siom
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd ei fod yn “hynod siomedig a blin iawn, iawn” na fydd y carchar yn cael ei adeiladu yng Nghaernarfon.
“Y teimlad pennaf gen i yw siom na fyddwn ni’n medru cynnig 700 o swyddi da iawn i bobol ardal Caernarfon,” meddai Dyfed Edwards.
“Rydw i’n siomedig a blin gyda’r modd y mae’r broses yma wedi digwydd. Fe gafwyd proses hir a thryloyw i ddewis y safle.
“Yr unig beth sydd wedi digwydd ers hynny ydi bod y gweinidog carchardai wedi newid, o David Hansen i Maria Eagle. Mae’n union yr un sefyllfa o ran anghenion.
“Dim cwrteisi”
“Roeddwn i a’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi bod yn pwyso am dri mis am gyfarfod, a doedd gan y gweinidog ddim o’r cwrteisi i gyfarfod gyda ni er mwyn goresgyn unrhyw broblemau.
“Mae hynny’n arwydd o lywodraeth wedi hen flino ar y job o lywodraethu ac yn codi cwestiynau am allu’r gweinidog i weithredu yn ei maes.”
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydden nhw’n “gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a Swyddfa Cymru” er mwyn “adnabod safleoedd eraill posib yng Nghymru”.