Mae dyn o Gasnewydd wedi ymddangos o flaen llys heddiw yn gwadu lladd merch dair oed a fu farw mewn tân bwriadol yn ei chartref.

Ymddangosodd Graham Heaps, 43 oed, o Woodside Terrace, Crymlyn, o flaen Llys y Goron Lerpwl ar linc fideo, er mwyn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a dynladdiad.

Cafodd ei gyhuddo yn wreiddiol o lofruddiaeth, o bum cyfrif o geisio llofruddio, ac o gynnau tân yn fwriadol gyda’r nod o beryglu bywyd ond dim ond y ddau gyhuddiad sydd ar ôl bellach.

Fe fydd yr achos llawn yn dechrau ar Dachwedd 16 ac yn parhau pedair wythnos.

Y cefndir

Roedd Francesca Bimpson yn un o bedwar o blant a gafodd eu hanafu yn y tân yn Norwood Grove, Lerpwl, yn oriau mân y bore ar Ragfyr 2 y llynedd.

Fe gafodd losgiadau erchyll a bu farw ddau ddiwrnod cyn y Nadolig yn Ysbyty Plant Alder Hey. Cafodd ei chwiorydd, Annie-Marie, 17 mis, a Christina, wyth, a’i brawd 14 oed Kieron eu trin am effaith mwg.

Fe gafodd ei mam Eleanor Skelhorne, 36, ei thrin am fân anafiadau ac effaith mwg a thorrodd ei thad, Kieron Bimpson, 36, ei goesau yn neidio o ffenest ar y llawr cyntaf.

(Llun: Oosoom)