Mae’r ddeuawd canu gwlad, Iona ac Andy, yn dathlu 30 mlynedd o berfformio’r mis hwn.

Fe ddechreuodd y pâr priod o Arfon berfformio gyda’i gilydd yn 1979. Ers hynny, maen nhw wedi rhyddhau sawl albwm yn cynnwys ‘Eldorado’, ‘Cerdded dros y mynyddoedd’ a ‘Llwybrau Breuddwydion.’

Dywedodd Iona mai’r peth gorau am ganu gyda’i gwr oedd eu bod yn “deall ei gilydd.”

“Mae’r bartneriaeth glos yn golygu ein bod ni’n gallu bod yn hamddenol ar lwyfan. Rydyn ni’n dau fel un” meddai.

Wrth son am fanteision y bartneriaeth glos dywedodd Iona:

“Wrth gyflwyno caneuon, dwi’n dueddol o agor fy ngheg a mynd i hwyl weithia’ – mae Andy wastad yno i’n hatgoffa i symud ymlaen i’r gân nesaf.”

Mae’r ddeuawd broffesiynol wedi ennill llawer o gystadlaethau yn ystod y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf gan gynnwys ‘Deuawd Mwyaf Poblogaidd Canu Gwlad Prydain’ yng ngwobrau Canu Gwlad Prydain yn 1987.

Hefyd, yn 1991 fe gafodd y ddau gyfle i ganu yn arena Wembley yn Llundain gyda Johnny Cash, Tammy Wynette a Crystal Gail Whitman.

“Roedd pawb enwog yno – roedd sefyll yn fanno pan o’n ni’n dechrau’n brofiad hynod gyffrous,” meddai Iona.

Ond, uchafbwynt eleni i’r ddau oedd cynnal noson yn Hagebos, ger Ypres, yng ngwald Belg – lle y lladdwyd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe wnaeth y ddau godi baner ger plac Hedd Wyn mewn seremoni gyda 50 o Gymry a nifer o’r ardal leol.

Lleol – “emosiynol iawn”

Er bod Iona ac Andy wedi teithio ar hyd a lled Cymru, Ewrop ac America yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, does dim yn cymharu i ganu’n lleol, meddai Iona, ar ôl canu yn Nantlle’n ddiweddar.

“Mae gwreiddiau rhywun mor bwysig, fe wnaeth canu yn Nantlle fy nhynnu yn ôl i’m gwreiddiau – roedd gwybod fod pobl yn dal i ‘ngwerthfawrogi yn fy nghartre’ fy hun yn brofiad personol ac emosiynol iawn.”

Cymru a Chymreictod

Mae’n debyg mai un peth sydd wastad wedi bod yn bwysig i Iona ac Andy yw Cymru a Chymreictod.

“Pan nes i gychwyn canu yn Saesneg, fe ddywedodd rhyw asiant wrth Andy i ddweud wrtha i am gau fy ngheg rhwng penillion am fod gen i acen fawr Gymraeg.

“Mae Cymru a Chymreictod yn bwysig iawn mi. A dim ots lle mae Andy a fi rywsut, mae pobl ar hyd a lled y wlad yn hoffi pan dan ni’n canu yn y Gymraeg.” meddai Iona.

Bwriad y ddau yn y dyfodol yw “parhau i ganu, teithio a threfnu mwy o gyngherddau.”