Mae capten tîm rygbi Caerloyw, y Cymro, Gareth Delve, wedi cael ei wahardd am dair wythnos yn dilyn ei ffrae gyda chwaraewr Gwyddelod Llundain, George Stowers.

Fe fu’r ddau chwaraewr yn ymladd ym munud olaf buddugoliaeth Gwyddelod Llundain yn erbyn Gloucester yn Stadiwm Madejski a hynny wedi tacl beryglus gan Stowers ar y rhif wyth.

Mae Stowers hefyd wedi cael ei wahardd am dair wythnos – pythefnos am y dacl a wythnos am daro Delve.

Fe fydd y ddau ar gael i chwarae unwaith eto ar 12 Hydref. Ond maen nhw’n colli gêmau cyntaf eu clybiau yn y Cwpan Heineken.