Mae’r babi cyntaf erioed wedi cael ei eni yn Ysbyty Plant Great Ormond Street yn Llundain.
Mae’r ysbyty 157 oed yn trin babanod sâl a phlant ond does ganddo ddim adran mamolaeth, a does plentyn erioed wedi ei eni yno – tan nawr.
Ond, fe wnaeth Nicola Tyler roi genedigaeth i Zac wrth ymweld â’i merch chwech oed, Kelly, sy’n dioddef o ganser.
Dywedodd Nicola Tyler, 32, o Essex, cyn gadael am gyfnod naw diwrnod yn yr ysbyty: “Dwi’n ofn wna’i roi genedigaeth yno.”
Daeth ei hofnau yn wir wrth iddi roi genedigaeth yn ward Elephant yr ysbyty. Roedd staff yr ysbyty wedi cysylltu gydag ysbyty arall cyfagos er mwyn trosglwyddo’r fam, ond daeth Zac i’r byd yn llawer cynt na’r disgwyl.