Mae’r Prif Weinidog, Gordon Brown, wedi dweud na fydd o’n cymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn y Twrnai Cyffredinol, y Farwnes Scotland.
Fe fydd hi’n cael ei dirywio £5,000 ar ôl cyflogi mewnfudwraig anghyfreithlon fel ei gwraig cadw tŷ.
Ymddiheurodd yr arglwyddes, swyddog cyfreithiol uchaf y llywodraeth, am y “torcyfraith technegol” a derbyn penderfyniad Asiantaeth Ffiniau’r DU.
Mae’r Blaid Geidwadol wedi galw arni i ymddiswyddo ond dywedodd Gordon Brown na fyddai hi’n colli ei swydd.
“Mae Asiantaeth Ffiniau’r DU yn fodlon nad oedd hi wedi cyflogi gweithwyr anghyfreithlon yn fwriadol, rydw i wedi penderfynu nad oes angen unrhyw gamau pellach,” meddai Gordon Brown.