Mae un o ffermydd anwesu mwyaf poblogaidd Cymru wedi dweud na fydden nhw’n newid eu polisi o ganiatáu i blant gyffwrdd ag anifeiliaid.

Dywedodd llefarydd ar Folly Farm yn Sir Benfro wrth Golwg 360 ei bod hi’n saff i blant gyffwrdd ag anifeiliaid, er gwaethaf lledaeniad haint E.coli sydd wedi cau pedair fferm yn Lloegr.

“Mae’r achos E.coli diweddar yn fferm Godstone ac achosion tebyg yn creu ofn dealladwy,” meddai llefarydd.

“Ond yn Folly Farm, rydyn ni’n cymryd cyngor gan nifer o gymdeithasau arbenigol ac rydyn Ni’n cael ein rheoli gan lawer o wahanol gyrff llywodraethol hefyd.”

Dywedodd bod degau ar filoedd o blant ac oedolion yn ymweld â sŵau a ffermydd ledled y byd bob blwyddyn, a’u bod “saff” ac yn “hwyl”.

“Rydyn ni o hyd wedi argymell yn gryf fod yr holl ymwelwyr sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol ag anifeiliaid yn golchi eu dwylo drwy ddefnyddio’r cyfleusterau ar y fferm,” meddai.

Cadarnhau bod E.Coli ar fferm

Mae profion wedi cadarnhau fod haint E.coli 0157 yn bresennol yn nhail anifeiliaid ar fferm hamdden Godstone yn Surrey.

Mae’n debyg bod 67 o bobl wedi dioddef o’r haint ar ôl ymweld â’r fferm ac mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn disgwyl i’r nifer o achosion gynyddu.

Ddoe, dywedodd Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd bod wyth o’r plant a gafodd eu heffeithio waethaf gan yr haint yn parhau yn yr ysbyty, mewn cyflwr “sefydlog ac yn cryfhau”.

Dangosodd canlyniadau yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol bod 33 o’r 102 o samplau ag E.coli 0157 ynddynt.

Mae’r fferm yn annog plant i anwesu’r anifeiliaid ac mae cyfle i ddringo i mewn i lociau at ŵyn bach a pherchyll.

Mae’r firws yn trosglwyddo’n hawdd, yn arbennig trwy faw anifeiliaid ac mae achosion ar raddfa llai wedi bod ar ffermydd o’r fath cyn hyn.