Dyw pobol ddim yn cael gadael eu tai yn Honduras yn America ganol ar ôl i’r cyn arlywydd ddychwelyd i’r wlad i geisio ail-afael mewn grym.

Mae Manuel Zelaya wedi galw am drafodaethau gyda’r arweinwyr a oedd wedi ei orfodi i adael y wlad ddiwedd mis Mehefin.

Fe gafodd gwaharddiad ei osod ar symudiadau pobol, er mwyn cadw protestwyr o’r strydoedd – roedd y cyrffiw am 15 awr i ddechrau ond fe gafodd ei godi wedyn i 26 awr.

Ar hyn o bryd mae Manuel Zelaya yn cael ei warchod o fewn Llysgenhadaeth Brasil, ac mae torf o bobol wedi casglu y tu allan i’w gefnogi. Bwriad y llywodraeth dros dro yw arwain y wlad tan yr etholiad ym mis Tachwedd.

Streic

Er hynny, mae’r pwysau’n cynyddu arnyn nhw i ail benodi’r cyn arlywydd. Mae pennaeth undeb athrawon y wlad, Eulogio Chavez, wedi dweud y bydd y 60,000 o’u haelodau yn mynd ar streic nes ail-benodi Zelaya.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton wedi annog y ddwy ochr i gytuno ar ateb heddychlon i’r argyfwng ac mae arweinwyr gwledydd cyfagos ar y cyfan yn cefnogi Zelaya.

Roedd wedi ei anfon o’r wlad oherwydd ei fwriad i geisio newid y cyfansoddiad a chael tymor arall mewn grym.