Mae’n bosib bod y Llywodraeth ar fin cefnu ar eu cynlluniau i wario £20 biliwn ar fersiwn newydd o arfau niwclear Trident.

Mae pôl YouGov gan y blog adain chwith Left Foot Forward yn dangos bod 63% yn erbyn adnewyddu Trident a bod 23% yn credu y dylai Prydain gael gwared ag arfau niwclear yn gyfan gwbl.

Yn ôl papur newydd y Times mae aelodau o’r Cabinet yn credu y bydd yr addewid i adnewyddu Trident yn diflannu o faniffesto etholiad y blaid Lafur y flwyddyn nesaf.

Pwysau

Mae Llywodraeth Prydain dan bwysau i ymuno gyda’r Arlywydd Obama wrth alw am ostyngiad mawr yn nifer yr arfau sydd gan wledydd niwclear y byd.

Yn ogystal â’r gost gychwynnol, mae disgwyl i Trident gostio rhwng £72 biliwn a £97 biliwn tros 20 mlynedd.

Mae disgwyl i’r llongau tanfor Trident presennol, sy’n cynnal 8,000 o swyddi yn yr Alban, barhau ar waith tan 2017.

Mae llywodraeth SNP yr Alban yn gwrthwynebu cadw’r llongau tanfor a’u harfau niwclear yn y wlad.

Arfau Niwclear Fesul Gwladwriaeth

Rwsia – 13,000

Unol Daleithiau America – 9,400

Gwledydd Prydain – 185

Ffrainc – 300

China – 240

India – tua 70

Pacistan – tua 80

Gogledd Corea – tua 5

Israel – tua 80 (heb ei gadarnhau)