Mae AC Llafur amlwg wedi gwrthod cyfaddawd Comisiwn y Cynulliad yn y ddadl tros gyfieithu’r Cofnod.

Er eu bod wedi newid eu bwriad i roi’r gorau i gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg, dyw’r cynnig diweddara’ ddim digon da chwaith, meddai Alun Davies.

Mae’r cynnig i gyhoeddi fersiwn Cymraeg o fewn cyfnod o rhwng tri a deg diwrnod yn “gwbl annerbyniol ac annigonol”.

“Mae angen i’r iaith Gymraeg gael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg,” meddai’r aelod tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. “Dyw Comisiwn y Cynulliad ddim wedi gofyn barn yr aelodau ar y mater.”

Mae Alun Davies am weld y Comisiwn yn sicrhau bod y cyfieithu’n cael ei wneud o fewn diwrnod i’r cyfarfodydd ac mae e ac aelodau eraill wedi rhoi cynnig gerbron y Cynulliad yn galw am drafodaeth.

Fe fyddai trin y Gymraeg yn eilradd i’r Saesneg yn gosod esiampl wael i gwmnïau a sefydliadau eraill, meddai. “Dylai’r Cynulliad fod yn arwain y ffordd gyda pholisi dwyieithrwydd yng Nghymru.”