Mae heddlu Ffrainc wedi dechrau clirio gwersyll answyddogol i fewnfudwyr ar gyrion tref Calais.

Fe fu’n rhaid iddyn nhw wynebu protest gan gefnogwyr hawliau dynol wrth fynd i mewn i’r gwersyll, sy’n cael ei alw yn “Jyngl”.

Roedd tua 150 o’r mewnfudwyr wedi casglu y tu ôl i faner oedd yn dweud: “Mae angen lloches a diogelwch arnon ni, r’yn ni eisiau heddwch”. Fe gafodd tua dwsin o’r mewnfudwyr eu llusgo allan o’r gwersyll ar ôl gwrthod gadael.

Sefydlwyd y gwersyll answyddogol yn ôl yn 2002, ar ôl i awdurdodau Ffrainc gau canolfan y Groes Goch yn Sangatte ar ôl pwysau gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r heddlu’n canolbwyntio ar ardal o’r enw jyngl Pashtun, sydd tua hanner milltir o’r prif borthladd a lle mae tua 300 o fewnfudwyr o Afghanistan yn byw.

Mae’r heddlu hefyd yn targedu rhes o dai yn agos i’r dref lle mae nifer fawr o fewnfudwyr Affricanaidd.

Fe fydd y mewnfudwyr yn cael eu hanfon yn ôl i’r wlad Ewropeaidd lle daethon nhw gynta’ – gwlad Groeg yn achos y rhan fwya’.