Fe ddaeth timau achub mynydd o hyd i gorff menyw yn Eryri.

Roedden nhw wedi cael eu galw allan tua 6.30 neithiwr ar ôl i’r heddlu gael clywed fod person ar goll ar y Glyder Fawr rhwng Bwlch Llanberis a Dyffryn Ogwen.

Fe fu achubwyr mynydd Dyffryn Ogwen, cŵn chwilio, hofrennydd achub yr RAF a’r heddlu i chwilio am y fenyw.

Ar ôl ychydig dros ddwyawr, fe ddaethon nhw o hyd iddi yng Nghwm Idwal wrth droed y mynydd.

Does dim manylion pellach yn cael eu rhyddhau tan bod perthnasau’r fenyw wedi cael gwybod.