Fe fydd llygaid y byd ar y ddwy wlad fwya’ pwerus wrth i arweinwyr rhyngwladol gynnal uwch-gynhadledd arbennig i drafod newid hinsawdd.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barrack Obama, ac Arlywydd China, Hu Jintao, yn annerch y cyfarfod sy’n digwydd ddau fis a hanner cyn cynhadledd allweddol Copenhagen.

Y disgwyl yw y bydd China yn gwneud cynnig newydd i dorri nwyon tŷ gwydr gan eu gosod nhw ar flaen y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang a rhoi pwysau ar yr Unol Daleithiau i ymateb.

Mae’r Arlywydd Hu yn debyg o awgrymu bod targedau nwyon tŷ gwydr, fel carbon, yn cael eu clymu wrth incwm y gwahanol wledydd – hyn a hyn o ostyngiad am bob doler o incwm.

Fe allai hynny helpu i dorri’r ddadl rhwng gwledydd cyfoethog a gwledydd sy’n datblygu – hyd yn hyn, fe fu anghytundeb tros rannu’r baich o leihau’r nwyon.

Llun – Gorsaf drydan o lo yn yr Unol Daleithiau