Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cael eu beirniadu am wario o leia’ £130,000 i ffeindio a oedd un o’i hadrannau yn gwario gormod.
Fe gafodd cwmni cyfrifwyr KPMG eu hurio i gynnal ymchwiliad i weithgareddau staff y Llywodraeth sy’n ceisio cael busnes tramor i Gymru.
Roedd hi wedi dod yn amlwg bod swyddogion Busnes Rhyngwladol Cymru wedi gwario £700,000 trwy gardiau credyd mewn blwyddyn.
Bellach, fe ddaeth yn amlwg bod yr ymchwiliad yn costio £129,000 gyda chostau teithio a bwyd ar ben hynny.
“Rhyfeddu”
Y Prif Weinidog Rhodri Morgan oedd wedi galw’r ymchwiliad ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Nick Bourne, yn dweud ei fod wedi rhyfeddu.
“Pam ddywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau cynnal adolygiad ar y gwario yn un o’i adrannau ei hun, wnes i ddim breuddwydio y byddai’n gwario swm chwe ffigwr i wneud hynny,” meddai. “Ymchwiliad cyflym byr oedd ei angen.”
Fe bwysleisiodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod wedi dilyn y rheolau a bod y cytundeb wedi ei osod trwy dendr cystadleuol. Roedd angen i’r ymchwiliad fod yn llawn ac annibynnol, meddai.
Llun – Rhan o bennawd gwefan Busnes Cymru Rhyngwladol