Fe fydd 103 o gwmnïau adeiladu’n gorfod talu dirwyon o £129.5 miliwn am dwyllo trwy drefnu prisiau mewn tendrau adeiladu.

Fe gyhoeddodd y Swyddfa Fasnachu Teg eu bod wedi dod ar draws 199 o achosion o dwyll o’r fath yn Lloegr rhwng 2000 a 2006.

Roedd y rhan fwya’n ymwneud â chynnig prisiau ffug gan olygu fod cwsmeriaid yn talu mwy nag oedd rhaid.

Dyma’r twyll

• Pan oedd cwsmer yn gofyn am brisiau, byddai cwmnïau’n cydweithio.

• Fe fyddai cytundeb bod un cwmni yn mynd i gael y gwaith, a hwnnw’n cynnig pris.

• Wedyn, fe fyddai un neu ragor o gwmnïau eraill yn cynnig prisiau uchel iawn.

• ganlyniad, fe fyddai pris y cwmni cynta’n edrych yn fwy deniadol.

Mewn 11 o achosion, dim ond un cynnig dilys oedd yna; mewn chwech arall, roedd y cwmni buddugol wedi talu math o ‘iawndal’ i’r cystadleuwyr.

Llun (Jane Ruivivar – Trwydded GNU)

Roedd yr holl waith werth £200 miliwn ond fe gafodd y gosb ei gostwng ar 86 o’r cwmnïau ar ôl iddyn nhw syrthio ar eu bai.