Fydd capten pêl-droed Cymru ddim yn cael ei gosbi gan ei glwb ei hun ar ôl gwthio cefnogwr yn ei wyneb.
Fe ddywedodd dirprwy reolwr Manchester City nad oedd y clwb yn gweld yr angen i ddisgyblu Craig Bellamy ar ôl y gêm yn erbyn Manchester United ddydd Sadwrn.
Yn ôl y Cymro, Mark Bowen, roedd y cefnogwr wedi rhedeg ar y cae ac wedi dod yn agos iawn at Bellamy ar ôl i Man Utd fynd ar y blaen o 4-3 ym munud ola’r gêm.
“Mi ddaeth o’n wirioneddol agos at Craig a ’nheimlad i ydi fod Craig yn meddwl ei fod o’n mynd i boeri neu rywbeth,” meddai Bowen wrth Radio Five Live.
Fe allai Bellamy wynebu cosb gan y Gymdeithas Bêl-droed ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiad am y gêm ac mae Heddlu Manceinion wedi cadarnhau y bydd cefnogwr 21 oed yn wynebu achos llys am fynd ar y cae’n anghyfreithlon.