Dyw Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddim wedi rhoi sylw eto ar dro pedol rhannol Comisiwn y Cynulliad tros gyfieithu’r Cofnod ond fe fydd Aelodau Cynulliad yn galw am drafodaeth lawn.

Mae’r Bwrdd yn aros am lythyr ffurfiol gan y Comisiwn, gyda rhagor o wybodaeth am y penderfyniad a wnaed ddoe, ond mae rhai ACau wedi dweud eisioes eu bod nhw’n anfodlon.

Yn hytrach na rhoi’r gorau i gyfieithu areithiau Saesneg i’r Gymraeg ar gyfer cofnodion swyddogol y Cynulliad, mae’r Comisiwn bellach yn awgrymu cael cyfieithiad llawn o fewn cyfnod o rhwng tri a deg diwrnod.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd fersiwn Saesneg o’r Cofnod ar gael ynghynt. Os felly, fe fydd ACau yn parhau i gwyno ac yn galw am newid. Maen nhw’n mynnu fod rhaid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cytuno i gyfieithu rhagor ar weithgareddau rhai o’r pwyllgorau sy’n delio gyda deddfau ac am gynnal arolwg o’r holl strategaeth gyfathrebu.

Mae’r Aelodau’n dychwelyd i Fae Caerdydd heddiw.

Datganiad Bwrdd yr Iaith

Mae Bwrdd yr Iaith wedi cyhoeddi datganiad un paragraff gan y Cadeirydd, Meri Huws: “Rydym wedi cael cyfle i ddarllen y datganiad cynhwysfawr a ryddhawyd i’r wasg y prynhawn yma. Rydym yn disgwyl derbyn gohebiaeth ffurfiol gan y Comisiwn yn fuan, a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth. Byddwn yn ystyried yr ymateb hwnnw’n fanwl, gyda golwg ar drefnu trafodaethau pellach.”