Fe fydd rhestr o feysydd brwydro yng Nghymru yn cael ei chreu er mwyn deffro diddordeb pobol yn hanes Cymru.
Ac fe fydd cymunedau’n cael eu hannog i gynnal digwyddiadau i ddathlu’r iaith Gymraeg, enwau llefydd a llên gwerin.
Dyna fydd dau o’r prif gyhoeddiadau pan fydd y Gweinidog Treftadaeth yn cyhoeddi ei amcanion a’i strategaeth ar gyfer y blynyddoedd nesa’ – dyma’r datganiad cynta’ o’i fat ers pum mlynedd.
Fe fydd hefyd yn pwysleisio’r angen i’r corff gwarchod, Cadw, gael system “fodern, glir ac atebol” o ofalu am adeiladau hanesyddol ac yn cyhoeddi arolwg i benderfynu pa lefydd sydd o bwys yn hanes yr ugeinfed ganrif.
Fe fydd Alun Ffred Jones yn dweud wrth aelodau’r Cynulliad fod hyn i gyd yn rhan o ymdrech i ddysgu pobol am hanes Cymru – yn bobol leol yn ogystal ag ymwelwyr.
Yn ôl y Llywodraeth, mae 90% o ymwelwyr tramor â Chymru yn ymweld â safle treftadaeth.
“Clymau emosiynol” – dadl Alun Ffred Jones
Fe fydd Alun Ffred Jones yn dweud mai un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth yw “meithrin teimlad byw” o ystyr bod yn ddinesydd Cymreig.
Mae bod yn ddinesydd yn golygu clymau emosiynol a theimlad o gymuned, meddai, a hynny’n cynnwys cenedlaethau’r gorffennol yn ogystal â’r dyfodol.
“Felly ein nod yw helpu pawb yng Nghymru i gael o leia’ rhyw deimlad o’r amgylchedd hanesyddol lle maen nhw’n byw.”
* Fe gafodd Cymdeithas Meysydd Brwydro Cymru ei sefydlu ddwy flynedd yn f4l.
Llun: Map o faes brwydr Bryn-Glas, un o fuddugoliaethau mawr Owain Glyndwr (Archifau Powys)