Mae Plaid Cymru wedi galw am eglurder gan Lywodraeth San Steffan ar ddyfodol cyllido addysg yng Nghymru.

Mae Nerys Evans, AC, Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw am yr eglurder hwn yn dilyn cynigion a wnaed gan Ed Balls, y gweinidog cabinet gyda chyfrifoldeb dros ysgolion, dros y penwythnos i dorri £2 biliwn oddi ar y gyllideb addysg yn Lloegr.

Mae Nerys Evans, llefarydd Plaid Cymru ar addysg yn gofyn sut y byddai symudiad o’r fath yn effeithio ar Gymru yn sgil y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu.

“Mae angen eglurder ar sut y mae’r cynllun hwn am effeithio ar y sector addysg yng Nghymru,” meddai.

Rhybuddiodd y gallai’r cynnig hwn gael oblygiadau “trychinebus” ar addysg yng Nghymru gan ychwanegu y gallai’r wlad golli oddeutu £117 miliwn o bunnau yn ei sgil.

“Mae angen i Lywodraeth San Steffan warantu y bydd cyllideb Cymru yn cael ei amddiffyn,” meddai Nerys Evans.