Mae Arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad wedi dweud heddiw ei fod yn falch ei fod wedi gwylltio’r gorllewin drwy wadu’r holocost.
Dywedodd Mahmoud Ahmadinejad hyn wrth baratoi i fynd i annerch y Cenhedloedd Unedig i bwysleisio “heddwch a chyfeillgarwch.”
Daw sylw’r Arlywydd am yr holocost wrth i’r dadlau chwerw barhau rhwng y wlad a’r Unol Daleithiau a chenhedloedd gorllewinol eraill am ei rhaglen niwclear honedig.
“Mae dicter llofruddion proffesiynol y byd yn ffynhonnell balchder i ni,” dywedodd Mahmoud Ahmadinejad mewn datganiad o ymateb i araith flaenorol ganddo lle cwestiynodd yr holocost, ddydd Gwener ddiwethaf.
Mae Mahmoud Ahmadinejad wedi codi sawl cwestiwn ynghylch hygrededd yr holocost ac wedi awgrymu mai esgus oedd dros ffurfio Israel.
Yn y cyfamser, mae’r Unol Daleithiau yn credu fod llywodraeth geidwadol Iran yn ystyried datblygu wraniwm coeth gyda’r bwriad o gynhyrchu arfau niwclear.
Mae swyddogion Iran wedi gwadu’r cyhuddiad hwn ac yn datgan fod y rhaglen yn bodoli i bwrpas heddychlon.
“Heddwch a chyfeillgarwch”
Mae disgwyl i’r Arlywydd annerch y Cenhedloedd Unedig ddydd Mercher.
“Neges bwysicaf ein Harlywydd yn Efrog Newydd y flwyddyn hon yw heddwch a chyfeillgarwch i’r holl genhedloedd,” meddai Mohammad Jafar Mohammadzadeh, llefarydd ar ran Swyddfa’r Arlywydd.