Bydd cofnod y Cynulliad yn parhau i gael ei gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, cyhoeddodd y Llywydd Dafydd Elis-Thomas y prynhawn yma.
Cadarnhaodd y bydd cofnod llawn dwyieithog ysgrifenedig yn cael ei gynhyrchu o fewn 3 i 10 diwrnod o bob Cyfarfod Llawn – o gymharu â’r drefn bresennol o gynhyrchu cofnod o’r fath o fewn 24 awr.
Ar ôl i Gomisiwn y Cynulliad gael eu beirniadu’n hallt ers eu penderfyniad ddechrau mis Awst i roi’r gorau i gyfieithu areithiau Saesneg i’r Gymraeg, roedd Dafydd Elis-Thomas wedi awgrymu ddoe y gallai fod lle am gyfaddawd.
Un o’r pethau yr oedd ef yn awyddus i’w weld oedd adolygiad o ddarpariaeth y Cynulliad o wasanaethau dwyieithog, a chadarnhaodd heddiw y bydd adolygiad annibynnol o’r fath yn cael ei wneud cyn cynnal adolygiad ffurfiol o Gynllun Iaith y Cynulliad yn 2010.
Dywedodd hefyd y bydd y Comisiwn yn “cymryd camau i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gosod sylfaen statudol gref i statws y ddwy iaith a ddefnyddir ym musnes y Cynulliad”.
Deddfwriaeth
Wrth gyfeirio at y berthynas rhwng y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg – a oedd yn bygwth dwyn camau cyfreithiol petai’r cynllun i roi’r gorau i gyfieithu’r Cofnod yn mynd ymlaen, meddai Dafydd Elis-Thomas:
“Nid oedd hi erioed yn fwriad yn Neddf Iaith Gymraeg 1993 i osod fframwaith ar gyfer llywio gweithredoedd deddfwrfa genedlaethol.
“Byddai’n amhriodol yn gyfansoddiadol i’r Cynulliad a’r Comisiwn fod yn atebol i gorff a benodir gan Weinidogion, ac mewn rhai amgylchiadau, yn atebol i’r Gweinidogion eu hunain, pan fo’r Gweinidogion hynny yn eu tro yn atebol i’r Cynulliad.
“Mewn deddfwrfeydd dwyieithog eraill ceir deddfwriaeth fanwl, gyda gorfodaeth annibynnol y tu ôl iddi, sy’n ymdrin yn benodol â hawliau iaith mewn perthynas â’r corff deddfu. Hyd yn hyn, nid ydym fel Cynulliad wedi cael cyfle i basio deddfwriaeth o’r fath.
“Fodd bynnag, pan wneir y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg, bydd yn rhoi’r pŵer i ni wneud hynny.”