Dywedodd dyn ifanc a gafodd ei anfon allan o siop Tesco yr wrthnos ddiwethaf fod yr archfarchnad wedi “gwrthod cynnig ymddiheuriad” iddo.

Yn ôl Daniel Jones, 23 oed arweinydd a sylfaenydd Urdd Ryngwladol y Jedi yng Nghaergybi, Ynys Môn, gofynnodd aelod o staff Tesco ym Mangor iddo dynnu ei hwd neu adael y siop.

Mae’r arweinydd yn datgan fod ei grefydd yn dweud fod “rhaid iddo wisgo hwd mewn mannau poblog.”

Er bod yr arweinydd wedi derbyn galwad ffôn gan Tesco, dywedodd wrth Golwg 360 iddynt “wrthod cynnig ymddiheuriad” iddo.

Dywedodd Daniel Jones ei fod yn teimlo bod Tesco yn gwneud “cyff gwawd cyhoeddus” ohono, ac yn gwrthod derbyn cyfrifoldeb am ei “erlid” hefyd.

“Mae’n ffiaidd fod archfarchnad fawr fel Tesco’n gallu gwneud hyn i rywun,” meddai.

“Brwydr”

Roedd Daniel Jones, 23 o Gaergybi eisiau “ymddiheuriad cyhoeddus” gan Tesco a’i fod eisiau iddynt “dderbyn ei grefydd.”

“Drwy wisgo hwd, doeddwn i ddim yn rhan o ddiwylliant gang – mae’n rhan o’n ffydd i ” meddai gan ychwanegu ei fod yn ceisio cyngor cyfreithiol.

“Mae hon yn mynd i fod yn frwydr bersonol yn erbyn cawr o archfarchnad enfawr,” meddai.

Nid oedd gan Tesco sylw i ychwanegu pan gysylltwyd â nhw heddiw. Dywedodd llefarydd ar ran yr Archfarchnad y byddent yn dod yn ol yn y man, petai gan yr archfachnad sylw diweddarach ar y mater.