Roedd cyn-Brif Weinidog Ffrainc o flaen llys heddiw ar gyhuddiad o chwarae rhan mewn ymgyrch i bardduo enw’r arlywydd Nicolas Sarkozy.

Mae Dominique de Villepin wedi cael ei gyhuddo o wneud honiadau ffug fod gan Nicolas Sarkozy gyfrif banc cyfrinachol yn Luxembourg a oedd yn cynnwys arian o lwgrwobrwyon am gytundeb amddiffyn.

Fe gychwynnodd y sgandal yn 2004, pan oedd Sarkozy a Villepin yn cael eu hystyried yn gystadleuwyr i olynu Jaques Chirac fel arlywydd.

Wrth amddiffyn ei hun, fe ddywedodd Villepin wrth y llys ym Mharis heddiw:

“Rwyf yma oherwydd penderfyniad un dyn (Sarkozy).”

Mae’r cyn-Brif Weinidog yn gwadu’r cyhuddiad o athrod (slander) yn erbyn arlywydd presennol Ffrainc.

Llun: Dominique de Villepin (Francois Mori/PA Wire)