Mae tair nyrs sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd wedi mynd â’u cyflogwyr i dribiwnlys heddiw – gan honni eu bod wedi’u herlid ar ôl lleisio pryderon am gydweithiwr.
Mae’r merched yn dweud bod y Gwasanaeth Iechyd ym Manceinion wedi methu â’u hamddiffyn ar ôl iddynt leisio pryderon am gymwysterau a phrofiad gwaith nyrs gwrywaidd yng Nghanolfan Wythenshawe.
Cafodd cwynion Jenny Fecitt, Annie Woodstock a Felicity Hughes eu pasio i’r rheolwyr.
Ond, maen nhw’n honni eu bod wedi’u herlid ar ôl lleisio’u pryderon tra cafodd y nyrs gwrywaidd barhau â’i swydd.
Mae’r tair nyrs wedi rhestru 46 esiampl o’r hyn y maen nhw’n ei honni sy’n enghreifftiau o erledigaeth.
Hefyd, mae un o’r nyrsys, Jenny Faccitt yn dweud ei bod wedi derbyn galwadau ffôn bygythiol.
Cadarnhau
Yn y cyfamser, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Manceinion wahardd y nyrs gwrywaidd a chyflogi Athro i ymchwilio’r achos. Fe wnaeth yr Athro gadarnhau pryderon y nyrsys.
Mae’r gwrandawiad wedi cael ei ohirio tan yfory pan fydd disgwyl i’r tyst cyntaf roi tystiolaeth.