Mae cyn-ofalwr yng nghartref plant Haunt de lau Garenne ar Ynys Jersey wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd heddiw am gyfres o ymosodiadau rhywiol ar enethod ifanc yn yr 1970au.
Cafwyd Gordon Wateridge, 78 oed, yn euog o wyth cyfrif o ymosod yn anweddus ac un cyfrif o ymosod, yn Llys y Goron Jersey, y mis diwethaf.
Cafodd ei ddisgrifio gan y barnwr Christopher Pirchers fel “bwli rhywiol”.
Gordon Wateridge o St Clement, Jersey yw’r cyntaf i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad miliynau o bunnoedd i gam-drin plant ar yr ynys yn y gorffennol.
Dywedodd James Campbell, cadeirydd cymdeithas i gyn-breswylwyr cartrefi plant a gafodd eu cam-drin yn Jersey, na fyddai achos Gordon Waterdige yn gwneud llawer i dawelu meddwl aelodau’r gymdeithas.
Mae’r Gymdeithas yn ymgyrchu am ymchwiliad annibynnol i’r achos gan weithwyr cymdeithasol proffesiynol ac yn galw ar y Llywodraeth i agor cofnodion o achosion.
“Mae Wateridge wedi cael ei gyhuddo ond mae pobl eraill sy’n parhau i fyw a gweithio ar yr ynys a ddylai gael eu cyhuddo o ymosodiadau cam-drin plant,” meddai.
Llun: Gordon Wateridge (Heddlu Jersey /PA Wire)