Y prynhawn yma, mae Comisiwn y Cynulliad yn ailystyried ei benderfyniad i roi’r gorau i gyfieithu’r Cofnod – Hansard Bae Caerdydd.
Maen nhw wedi dod gan bwysau gan ACau, Bwrdd yr Iaith a bron pawb sy’n poeni am y Gymraeg i newid eu meddyliau.
Mae Cadeirydd y Comisiwn, sef Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, wedi twt-twtian am yr ymateb i’r penderfyniad hwnnw, ac wedi gofyn am drafodaeth aeddfed.
Piti felly na fyddai’r Comisiwn wedi rhoi gwybod yn agored ac onest i bobol am eu bwriad i drafod y mater ac am eu penderfyniad wedyn.
Piti fod hwnnw wedi ei wneud yn dawel bach yng nghyfarfod ola’r tymor diwetha’ pan oedd ACau yn gadael am eu gwyliau. “Proses o wneud cyllideb,” meddai’r Llywydd. Yn hollol – gyda’n harian ni.
Os oedd o eisio trafodaeth, mi fyddai wedi gofyn am farn Aelodau’r Cynulliad ymlaen llaw, achos nhw, nid y fo na’r Comisiwn, sydd â’r hawl i ddweud. Yn eu henwau nhw – a ni – y mae’r Llywydd a’r Comisiwn yn gweithredu.
Dim ond ar ôl i Golwg 360 dorri’r stori adeg yr Eisteddfod y cafodd ACau wybod. Doedd cofnodion y Comisiwn ei hun ddim yn egluro beth oedd y penderfyniad – yn unrhyw iaith.
Pe bai’r drafodaeth wedi digwydd, mi fyddai’r Comisiwn wedi cael ar ddeall fod y Cofnod yn symbolaidd bwysig. Tra bod Dafydd Elis-Thomas yn iawn i ddweud fod angen ystyried torri rhywfaint ar gyfieithu, nid y Cofnod ydi’r lle i ddechrau.
Nid mater i’r Cynulliad ydi penderfyniad o’r fath beth bynnag. Fel y dangosodd sylwadau diolchgar CBI Cymru, mae ganddo oblygiadau mawr o ran polisi cyhoeddus trwy’r wlad.
Mae’n amlwg hefyd nad ydi’r Llywydd yn hapus fod Bwrdd yr Iaith yn ceisio dweud wrth y Cynulliad i gadw at eu Cynllun Iaith eu hunain.
Pinacl gyrfa D E-T ydi ei waith yn gosod y Cynulliad ar seiliau cadarn. Ond y tro yma, mae o’n anghywir. Un o wersi sgandal costau Tŷ’r Cyffredin ydi fod y rhai sy’n gwneud deddfau a rheolau yn gorfod eu cadw hefyd.