Fe fydd 120,000 o weithwyr y post yn dechrau pleidleisio ynglŷn â streicio tros newidiadau i’r Post Brenhinol.

Mae undeb y gweithwyr cyfathrebu, y CWU, wedi anfon papurau allan a’r disgwyl yw y bydd y canlyniad yn dod ddechrau’r mis nesa’.

Ers wythnosau bellach, fe fu gweithwyr yn gweithredu’n ddiwydiannol yma ac acw trwy gerdded o’u gwaith ac mae hynny wedi achosi anhrefn yn y gwasanaeth mewn rhannau o wledydd Prydain.

Maen nhw’n cyhuddo’r Post Brenhinol o fethu â thrafod yn iawn wrth gynllunio i newid gwasanaethau.

Maen nhw’n galw am fwy o dâl, am sicrwydd swyddi yn ystod y newid ac am ddiogelu gwasanaethau – fel arall, medden nhw, fe fydd busnesau bach yn diodde’.

“Mae’r Post Brenhinol wedi cam drafod y mater yn llwyr,” meddai Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Dave Ward. “Heb gytundeb, fydd yna ddim newid llwyddiannus.”

“Torri cytundeb” – rheolwyr

Fe gafodd yr undeb ei gyhuddo o fod yn anghyfrifol wrth alw am streic ar draws gwledydd Prydain.

Roedden nhw’n torri cytundeb a oedd wedi ei arwyddo yn 2007, meddai Rheolwr Gyfarwyddwr y Post Brenhinol, Mark Higson.

“Mae arweinwyr y CWU yn ymwybodol ei fod wedi cytuno eisoes i’r holl newidiadau y mae’r Post Brenhinol yn eu gwneud.”

Llun: Kaihsu Tai – Trwydded GNU