Fe fydd maes awyr yng ngorllewin Cymru yn ehangu, wrth i’r dirwasgiad daro meysydd awyr yn Llundain ac wrth i’r Cwpan Ryder nesáu.
Ddiwedd y mis, fe fydd gwasanaeth newydd yn dechrau o Faes Awyr Pembre ger Llanelli i Gernyw ac mae’r perchennog hefyd yn sefydlu cwmni hedfan newydd o’r enw South Western Airlines.
Cwmni o Gernyw sy’n cynnig y gwasanaeth newydd er mwyn cysylltu â theithiau o New Quay i’r cyfandir ac fe fydd eu hawyrennau’n gallu cario hyd at 20 o deithwyr.
Y datblygiad mawr arall fydd paratoi’r maes awyr ar gyfer Cwpan Golff Ryder sy’n dod i Gasnewydd y flwyddyn nesa’ – mae Pembre wedi ei ddewis yn un o’r llefydd i awyrennau preifat lanio.
“Mae perchnogion awyrennau preifat yn gweld prisiau rhai o feysydd awyr Llundain yn rhy ddrud ar hyn o bryd ac mae hyn yn rhoi cyfle i bobol fel fi,” meddai Winston Thomas sydd eisoes wedi buddsoddi £3 miliwn yn y maes awyr.
Y stori’n llawn + ymarfer at Afghanistan yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg