Mae Chelsea wedi cyhoeddi bod eu prif weithredwr, Peter Kenyon, yn gadael ei swydd gyda’r clwb.
Fe fydd Kenyon yn gadael ar ddiwedd mis Hydref , ond mae am barhau i gynrychioli Chelsea fel aelod o bwyllgorau UEFA. Fe ymunodd gyda Chelsea ar ôl gadael Man Utd yn 2003.
Mae Chelsea wedi cael eu beirniadu yn ddiweddar am y sgandal o ddwyn chwaraewyr o dimau eraill.
Maen nhw wedi cael ei gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr newydd fel cosb am annog Gael Kakuta i dorri ei gytundeb gyda’r clwb Ffrengig, Lens.
Peter Kenyon oedd y ffigwr blaenllaw gyda Chelsea wrth arwyddo chwaraewyr newydd. Ond does dim son bod cosbi Chelsea am drosglwyddiad Kakuta wedi effeithio ar ei ymadawiad.
“Rwyf am gymryd ychydig o amser i ffwrdd cyn ystyried beth i wneud nesaf”, meddai Kenyon.
“Rwy’n falch iawn o fy amser gyda Chelsea – dyma un o fy mhrofiadau gorau o fewn pêl droed,” meddai.