Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yw’r diweddara’ i ddweud ei fod yn gweld ei ddyfodol yn y Cynulliad.

Mae Elfyn Llwyd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg “nad ydi hi ddim yn amhosib” y bydd yng Nghaerdydd cyn hir – “o fewn dwy neu dair blynedd”.

Byddai hynny’n awgrymu y gallai chwilio am sedd Cynulliad yn yr etholiad nesa’ yn 2011 – os bydd y Ceidwadwyr yn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesa’, maen nhw’n addo rhoi’r cyfle i’r un bobol ymgeisio mewn seddi etholaeth a seddi rhanbarthol ar gyfer Bae Caerdydd.

Elfyn Llwyd yw Aelod Seneddol Meirionnydd Nantconwy ers 1992 ac Aelod Cynulliad y sedd yw Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad.

Ond fe fydd y ffiniau’n newid adeg yr etholiad nesa’ a sedd newydd o’r enw Meirion Dwyfor yn cael ei chreu.

Mae un arall o ASau Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud y byddai yntau’n hoffi mynd i’r Cynulliad ond mae ei etholaeth yntau eisoes yn nwylo Plaid Cymru a’r cyn-Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.

Y stori’n llawn + “sarhad ar Gymru” yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg