Mae’n ymddangos y bydd y Llywodraeth yn caniatáu i sianeli teledu hysbysebu nwyddau ar y slei.

Mae disgwyl y gallai’r gweinidog, Ben Bradshaw, wneud cyhoeddiad am y newid meddwl mewn araith yr wythnos hon.

Mae’r syniad wedi cael croeso cynnes gan ITV, gyda rhai’n awgrymu y gallai godi £100 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant.

O dan y drefn newydd, fe fyddai yna hawl i ddangos nwyddau a brandiau ar raglenni fel dramâu neu adloniant ysgafn.

Ond fydd y BBC ddim yn cael gwneud yr un peth a dyw hi ddim yn glir eto beth fyddai’n digwydd gyda rhaglenni Cymraeg ar S4C, gan gynnwys ei rhaglen fwya’ poblogaidd, Pobol y Cwm.

Mae’r rhan fwya’ o wledydd yn caniatáu “gosod nwyddau” ac yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae’n cynnwys cael mathau arbennig o ddiodydd yn amlwg mewn dramâu neu wrth ochr y beirniaid ar raglenni talent.

Yn ôl adroddiadau mewn papurau Sul, fe fyddai yna reolau llym tros osod nwyddau mewn rhaglenni plant.

Un o bryderon y cwmnïau teledu yw bod incwm o hysbysebion traddodiadol yn cwympo’n gyflym a bod pobol yn osgoi edrych arnyn nhw.

Llun: O wefan Ben Bradshaw