Fyddai llywodraeth annibynnol yng Nghymru ddim yn anfon milwyr i ryfeloedd dibwrpas, meddai Llywydd Plaid Cymru.

Fe orffennodd cynhadledd y blaid yn Llandudno gyda galwad gan Dafydd Iwan i ddal i bwyso am annibyniaeth yn y pen draw.

Fe ddywedodd wrth y cynrychiolwyr y byddai Llywodraeth Cymru’n gallu edrych ym myw llygaid milwyr a dweud wrthyn nhw “na wnawn ni fyth eich anfon i ymladd rhyfeloedd anghyfreithlon, anfoesol, dibwynt ac amhosib eu hennill”.

Fe alwodd hefyd am roi mwy o rym i Lywodraeth Cynulliad Cymru – ar hyn o bryd, roedd hi fel anfon tîm rygbi Cymru i’r cae heb esgidiau.

• Fe helpodd Dafydd Iwan sicrhau na fyddai arweinyddiaeth y Blaid yn diodde’ embaras tros y Coleg Amddiffyn yn Sain Tathan. Roedd rhai aelodau’n galw am wrthwynebiad llwyr i’r cynllun, ond fe gafwyd cyfaddawd i gydnabod yr amheuon.

* Rhagor yn y gynhadledd mewn erthygl gan Huw Prys Jones yn yr adran Sylwadau