Mae pedwar o blant yn ddifrifol wael ac wyth arall yn yr ysbyty ar ôl cael eu heintio gyda’r firws E-coli ar fferm hamdden yn Surrey.

Yn ôl yr Asiantaeth Warchod Iechyd, mae’n bosib mai dyma’r achos mwya’ o’i fath yn y Deyrnas Unedig.

Roedd y plant, sydd i gyd rhwng 18 mis a deg oed wedi bod yn ymweld â fferm Godstone, lle maen nhw’n cael cyfle i anwesu a chyffwrdd anifeiliaid fferm.

Mae’r firws yn gallu cael ei drosglwyddo’n hawdd, yn arbennig trwy faw anifeiliaid ac mae achosion llai wedi bod ar ffermydd hamdden cyn hyn.

Mae’r fferm wedi ei chau am y tro, wrth i’r perchnogion gydweithio gyda’r awdurdodau ond mae chwaer ffarm ar agor o hyd.

Mae Godstone yn annog plant i ymwneud yn agos â’r anifeiliaid ac mae cyfle i ddringo i mewn i lociau at ŵyn bach a pherchyll, er enghraifft.

Llun: O wefan y fferm