Mae llifogydd monsŵn trwm wedi lladd 11 o bobol ac wedi gorfodi mwy na 74,000 i adael eu cartrefi yng ngogledd y Philipinau yr wythnos hon, meddai swyddogion heddiw.
Yn ôl Adran Trychineb Llywodraeth y wlad roedd glaw trwm wedi achosi llifogydd ym mhrif ynys Luzon.
Eisoes, mae llithriadau tir wedi lladd dau o blant yn nhalaith Laguna yn ogystal â thri o swyddogion diogelwch cwmni cloddio yn nhalaith Zambales i’r gorllewin o’r brifddinas Manila.
Mae chwech arall wedi marw mewn llifogydd.