Mae cynrychiolydd arbennig y Swyddfa Dramor yn Afghanistan yn dweud fod angen parhau â’r ymdrech i helpu cael heddwch yno.
Mewn cynhadledd yng Ngenefa, fe ddywedodd Syr Sherard Cowper-Coles nad oes angen strategaeth newydd i sicrhau llwyddiant yn Afghanistan.
Yn hytrach, dywedodd fod angen i genhedloedd y gymuned ryngwladol ymrwymo i gynnig cyllid hir dymor i gynorthwyo’r wlad, yn ogystal â chefnogaeth eu milwyr.
“Tra mae Obama’n parhau â’i ymrwymiad, rydyn ni hefyd,” meddai Sherard Cowper-Coles, a fu’n llysgennad Prydain yn Afghanistan am ddwy flynedd.
Ar un adeg, fe fu ynghanol helynt pan ollyngwyd nodyn mewnol ganddo yn proffwydo y byddai ymdrech yr Unol Daleithiau yn Afghanistan yn methu.
Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae gwleidyddion Prydain wedi cael eu beirniadu am niferoedd y milwyr sydd wedi eu lladd a’u hanafu yn Afghanistan.