Mae mwy na 50 o bobol gyffredin, swyddogion diogelwch a gwrthryfelwyr wedi’u lladd yn Afghanistan ar ôl cyfres o ddigwyddiadau.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd y rheiny’n cynnwys cyrch milwrol dros nos i dargedu gwrthryfelwyr yng ngogledd y wlad.

Fe gafodd dau filwr o’r Unol Daleithiau eu lladd gan fom ymyl-ffordd yn nwyrain y wlad ac ymosododd dau fomiwr o’r Taliban ar swyddfa wybodaeth gudd yn ne dinas Kandahar gan ladd un asiant.

Fe fu ymladd yn Kabul hefyd, ar ôl dadlau rhwng aelod o luoedd yr Unol Daleithiau ac un o swyddogion Heddlu Afghanistan – cafodd y ddau eu hanafu’n ddifrifol yn yr ymladd.

Mae ymosodiadau’r Taliban wedi cynyddu’n raddol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ynghyd a nifer marwolaethau’r diniwed yn Afghanistan.