Bydd cyngerdd teyrnged yn cael ei gynnal i Michael Jackson yn Llundain ym mis Mehefin, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth.

Bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud am fanylion y cyngerdd newydd yn Llundain, 2010, meddai ‘World Awards Media’ – trefnwyr y cyngerdd.

Oherwydd problemau trefnu gyda gwahanol artistiaid, roedd yn rhaid canslo cyngerdd teyrnged gwreiddiol y canwr yn Fienna fis Medi eleni.

Bydd modd i gefnogwyr sydd eisoes wedi prynu tocynnau i’r cyngerdd hwnnw gael ad-daliad.

Llundain – “priodol”

“Roedd Michael wedi cynllunio cyfres cyngherddau yng ngwledydd Prydain beth bynnag. Rwy’n credu fod cynnal ei gyngerdd teyrnged yma’n briodol,” meddai Jermaine Jackson.

Bydd tocynnau’r gig newydd ar gael cyn diwedd y flwyddyn a phrisiau’n dechrau o £44.

Fe fu Michael Jackson farw mis Mehefin diwethaf.