Mae un o arweinwyr Plaid Cymru wedi cael ei gyhuddo o fod yn “nawddoglyd” ar ôl dweud mai twyll oedd popeth am Senedd San Steffan.

Fe gafodd Adam Price, Aelod Seneddol Dwyrain Dinefwr a Chaerfyrddin, ei feirniadu gan Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ar ôl ei araith yng nghynhadledd Plaid Cymru.

Fe ddywedodd Adam Price na fyddai byth yn teimlo’i fod yn perthyn i San Steffan a’i fod eisiau dod yn ôl “adref” – awgrym clir y byddai’n hoffi sedd yn y Cynulliad.

“Mae popeth am yr adeilad – popeth y mae’n ei gynrychioli yn dwyll,” meddai. “Rydw i eisiau senedd sy’n perthyn i mi ac i ni. Senedd yr ydyn ni wedi ei adeiladu.”.

Roedd ei brif ymosodiad yn erbyn y Ceidwadwyr, gan broffwydo y bydden nhw’n ffurfio’r Llywodraeth nesa’ yn San Steffan.

“Methiant yw’r Llywodraeth Lafur hon. Llywodraeth sy’n marw.”