Dylai cenedlaetholwyr Cymru a’r Alban ffurfio “bloc Celtaidd” i frwydro yn erbyn Llywodraeth Dorïaidd, meddai cynrychiolydd yr SNP wrth aelodau Plaid Cymru heddiw.

Dywedodd Angus Robertson y byddai’n rhaid i’w blaid ef gyd-weithio â Phlaid Cymru os yw’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Yn etholiad nesaf San Steffan, mae angen i ni ethol mwy o aelodau seneddol Plaid Cymru a’r SNP nag erioed o’r blaen – i ffurfio’r hyn yr ydw i yn ei alw’n Floc Celtaidd.”

Fe fydd angen “grym cryf” yn y senedd, meddai, i gynrychioli gwerthoedd a blaenoriaethau pobl Cymru a’r Alban.