Ddylai Plaid Cymru ddim cuddio’i hawydd tymor hir i gael annibyniaeth i Gymru, meddai arweinydd y Blaid heddiw.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones fod rhaid i genedlaetholwyr godi ymwybyddiaeth pleidleiswyr o beth yw nod cyfansoddiadol y Blaid.

“Mae’n bwysig iawn fod pawb yn gwybod beth yw nod cyfansoddiadol y Blaid,” meddai mewn sesiwn cwestiwn ac ateb tua diwedd cynhadledd y Blaid yn Llandudno.

Fe bwysleisiodd hefyd nad oedd pawb sydd o blaid cynyddu grymoedd deddfu’r Cynulliad yn cefnogi’r syniad o Gymru annibynnol, ond mai proses yw datganoli.

“Doedd refferendwm 1997 ddim yn ddiwedd y daith. Roedd pawb yn gwybod mae dechrau’r daith oedd o.”