Mae Abertawe wedi syrthio i’r ugeinfed safle yn y Bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn Preston o 2-0 yn stadiwm Deepdale y prynhawn yma.

Fe sgoriodd Neil Mellor gyda pheniad ychydig cyn hanner awr i roi Preston ar y blaen ac fe sgoriodd Stpehen Elliott ail gôl tua’r diwedd i setlo’r gêm.

Yn y cyfamser, fe fu’n rhaid i gôl-geidwad Abertawe wneud arbediadau da iawn i atal Billy Jones a Chris Brown.

Ymosodwr Abertawe, Craig Beattie, a gafodd y cyfle gorau i sgorio i’r Elyrch ond fe lwyddodd golwr Preston, Andy Lonegan, i’w atal.

Mae’r golled ddiweddaraf yn cynyddu’r pwysau ar ddyfodol Paul Sousa gyda’r clwb.