Mae’n debyg y bydd Susan Boyle, un o sêr mwyaf rhaglen deledu ‘Britain’s Gor Talent’ yn perfformio yn America yn fuan.

Mae’n debyg y bydd yr Albanes ‘gyffredin’ yn canu’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn America yn rhaglen derfynol ‘America’s Got Talent’ yr wythnos nesa’.

Daeth y gantores 48 oed yn enwog ar ôl canu ei fersiwn hi o ‘I Dreamed a Dream’ a dod yn ail i’r grŵp dawns ‘Diversity’ yn rhaglen derfynol y gyfres.

Roedd y wraig o West Lothian wedi bod dan bwysau mawr – hi oedd y ffefryn i ennill y gyfres ar ôl synnu’r beirniaid oherwydd ei golwg gyffredin a’i llais arbennig

Yn dilyn hyn, fe dreuliodd amser yng nghlinig iechyd meddwl y Priory yn Llundain yn dioddef o anhwylderau emosiynol.