Mae pedwaredd ffilm ‘Pirates of the Caribbean’ ar y gweill, meddai Disney.

Roedd prif actor y gyfres, Johnny Depp, yng nghanolfan Cynhadledd Anaheim i gyhoeddi’r bwriad am ffilm newydd i ddilyn anturiaethau’r môr leidr, y Capten Jack Sparrow.

Bydd y ffilm newydd: ‘Pirates of the Caribbean: On Stranger Tides’ yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr haf 2011.

Hefyd, dywedodd Dick Cook, Cadeirydd Walt Disney Studios y byddai Johnny Depp yn chwarae rhan Tonto mewn fersiwn sgrin-fawr o ‘The Lone Ranger’ yn fuan.