Fe fyddai’n well i’r wlad ddod tros yr argyfwng economaidd yn raddol yn hytrach na chyflym, meddai pennaeth un o’r banciau oedd yng nghanol yr helynt.

Fel arall, roedd peryg y byddai’r economi’n dilyn esiampl Japan yn yr 1990au, pan gafodd “ddegawd coll”, meddai Stephen Hester, Prif Weithredwr y Royal Bank of Scotland.

Fe allai adferiad rhy gyflym barhau gydag economi “ansefydlog” a’r posibilrwyd do ddirwasgiad arall.

Mewn cyfweliad â’r BBC dywedodd y Prif Weithredwr yr hoffai weld pobol gwledydd Prydain yn “cynilo mwy a benthyg llai”, er mwyn i’r Llywodraeth gael amser i “reoli eu diffyg ariannol”.

Fe gafodd Stephen Hester swydd Prif Weithredwr RBS ym mis Tachwedd 2008.

Llun: Stephen Hester