Mae’r Aelod Seneddol Adam Price yn galw am newid cyfeiriad Plaid Cymru mewn araith allweddol yng nghynhadledd y Blaid heddiw.

Gyda Llywodraeth Lafur yn dod i ben, fe alwodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ar i’r Blaid arwain ac ennill y frwydr yn erbyn y Ceidwadwyr.

Mae’n proffwydo y bydd brwydr wleidyddol y dyfodol rhwng y Blaid yng Nghymru a Thorïaeth yn Llundain. Ac roedd hi’n hanfodol er lles pobol fwya’ bregus Cymru mai’r rhai blaengar oedd yn ennill y ddadl.

Problem sylfaenol y Ceidwadwyr, meddai, yw eu bod yn erbyn newid a dyw hynny ddim yn cwrdd ag anghenion Cymru. Tros y canrifoedd roedden nhw wedi llwyddo i fod ar ochr “braint a rhagfarn”.

“Pan ydych chi’n byw mewn gwlad sy’n galw am newid fel Cymru – pwy fyddai eisiau arafu’r newid hwnnw?” meddai.