Fe gafodd y Rhyl fuddugoliaeth anferth yn erbyn eu cymdogion o Fangor i gryfhau eu safle ar frig Uwchgynghrair Cymru.

A nhwthau 4-0 ar y blaen ar hanner amser, fe lwyddodd y tîm glan môr i ennill o 5-1.

Roedd yna ddwy gôl yn yr hanner cynta’ i Lee Hunt ac un yr un i Matthew Williams a Chris Williams, gyda Mark Connolly yn cael yr ola’ ym munud ola’r gêm.

Roedd yna fuddugoliaeth brin i Dderwyddon Cefn o 1-0 yn erbyn Porthmadog a buddugoliaeth gyfforddus i’r Seintiau Newyddo 3-0 yn erbyn Cei Conna.

Yn y gêm arall neithiwr, 1-1 oedd hi rhwng Hwlffordd a Phort Talbot.