Mae clo Cymru Luke Charteris wedi cael ei ddewis yn gapten ar y Dreigiau ar gyfer eu gêm yn erbyn pencampwyr Ewrop, Leinster, nos yfory.

Cafodd capten arferol y Dreigiau, Tom Willis, ei anafu yn y fuddugoliaeth yn erbyn Ulster y penwythnos diwetha’ ac fe fydd allan am weddill y mis.

Fe fydd y Dreigiau hefyd yn chwarae heb y ddau brop Phil Price a Ben Castle, y clo Hoani MacDonald a’r canolwyr Matthew Watkins a Rhodri Davies.

Ond mae Robert Sidoli wedi cael ei ddewis i ddechrau ei gêm gyntaf i’r rhanbarth, ar ôl dod oddi ar y fainc yn erbyn Ulster.

Carfan y Dreigiau

15.Martyn Thomas,14. Aled Brew, 13.Tom Riley, 12. Ashley Smith,11. Richard Fussell, 10.James Arlidge, 9.Wayne Evans

1.Ali McKenzie, 2.Steve Jones, 3.Nigel Hall, 4. Robert Sidoli, 5. Luke Charteris, 6. Dan Lydiate, 7.Gavin Thomas, 8.Grant Webb

Eilyddion- 16. Duane Goodfiels,17. Hugh Gustafson, 18.Gethin Robinson, 19.Adam Jones, 20.James Harris, 21.Jason Tovey,22. Alex Walker